Seryddiaeth a Seryddwyr logo


The history of
Astronomy in
Wales:
Introduction



Published
Summaries
of the Subject



People


Publications:
Books and
Journals



Astronomical
Societies in
Wales



Astronomical
Observatories
in Wales



Universities
in Wales



Historic
Observations



Eclipses in
Wales



Meteorite
Falls in Wales



Names of
astronomical
objects



Odds and
ends



Commentary


Web
Links



  

Chapter 24 of Seryddiaeth a Seryddwyr


An HTML version of Chapter 24 of Seryddiaeth a Seryddwyr [Astronomy and Astronomers] by the Rev. J. Silas Evans is provided here.

The chapter, entitled Seryddiaeth yng Nghymru (Astronomy in Wales), presents the history of the science relating to Wales, with emphasis on biographical information about characters originating from Wales or living in Wales who have studied and contributed to astronomy. The chapter provides an excellent summary of the subject up to 1923, the date of publication.



PENNOD XXIV.

Seryddiaeth yng Nghymru.

YR wyf yn ddyledus i Mr. Arthur Mee am rannau helaeth o'r bennod hon, ac y mae wedi gosod ei wybodaeth eang at fy ngwasanaeth, gyd â chaniatad, a mwy na chaniatad i mi ddyfynnu faint a fynnwyf (a goreu po fwyaf, meddai) o'i erthyglau, yn enwedig gan fy mod yn ysgrifennu mewn iaith wahanol iddo ef.

Rhaid cydnabod, er fod gan Gymru enwogion megis y Prifathro Griffiths [Ernest Howard Griffiths, ffisegwr, Prifathro Coleg Prifysgol De Cymru, 1901-1918], y diweddar Syr William Preece, y Prifathro Viriamu Jones [John Viriamu Jones, 1856-1901, ffisegwr, Prifathro Coleg Prifysgol De Cymru, 1883-1901], a Richard Roberts, y dyfeisiwr enwog, mai nid mewn gwyddoniaeth mae Cymry yn rhagori, ond mewn cyfeiradau ereill. Er hynny, hawdd fuasai dangos fod rhai ymhlith y Cymru wedi bod ymhob oes yn coleddu Seryddiaeth yn ogystal a ser-ddewiniaeth (astrology). Yn fuan ar ol dechreu y Cyfnod Cristionogol crybwyllir am Don, tad Amaethon, Gwdion, Govannon, Eunydd, ac Arianrhod, teulu oedd yn enwog ynglyn â Seryddiaeth, a gelwir rhai o'r Cytserau ar eu henwau, megis, Cassiopeia- "Llys Don"; Corona Borealis - "Caer Arianrhod", a'r Llwybr Llaethog "Caer Gwdion." Yr oedd Gwdion yn blodeuo tua'r flwyddyn 250 A.D., ac yn un o'r trioedd gelwir ef a Gwyn Ab Nudd ac Idris, y tri "gwyn serenyddion." Dichon fod Idris yn "arsyllu" yn ei Arsyllfa ar ben Cadair Idris. Gwyddom hefyd fod cromlechau yr hen Gymry wedi eu hadeiladu ar gynlluniau seryddol; ond palla gofod i ni fynd ar ol hanes yr hen oesau.

Braidd yn ddistaw ydyw llenyddiaeth Gymreig ar hyd y canfrifoedd mewn perthynas â Seryddiaeth, ond nid ydym i gasglu oddiwrth hynny nad oedd neb yn malio dim am y wyddoniaeth. Ceir cyfeiriad diddorol yng ngweithiau Iolo Goch, M.A., o Goed Panton, Llanefydd, at ymddangosiad Comed yn 1402. Tua'r adeg honno torodd allan wrthryfel Owen Glyndwr; ac yn "Cywydd y Seren" manteisiodd Iolo ar yr ymweliad i gefnogi achos Glyndwr, a thrwy haeru mai arwydd oedd y Gomed o lwyddiant Glyndwr, bu yn foddion i ddarbwyllo llawer i ymladd drosto, fel y sylwa y Parch. J. C. Morrice.

Gesyd Shakespeare y geiriau hyn yng ngenau Glyndwr:-

        ":at my nativity
The front of heaven was full of fiery shapes,
Of burning cressets; and at my birth,
The frame and huge foundation of the earth
Shaked like a coward."

"These signs have marked me extraordinary,
And all the courses of my life do shew,
I am not in the roll of common men."

(King Henry IV, Act iii, 1).

Tybed a oedd Huw Llwyd yn seryddwr? Mae llinellau Huw Machno mewn cerdd arwyrain iddo yn awgrymiadol:-

A'i ddrych, sy' wych o ddichell,
A wyl beth o'i law o bell.

Huw Machno i Huw Llwyd, Cynfal, 1623.

(Yr wyf yn ddyledus am y dyfyniad i'r Prif Athro J. H. Davies, Aberystwyth [John Humphreys Davies, Prif Athro, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, 1919-1926].)

Yn 1510 ganed dyn hynod iawn o'r enw ROBERT RECORDE, yn Tenby. Mab i Thomas Recorde o Tenby, a Rose, merch Thomas Jones, Machynlleth. Cymrawd o Goleg All Souls, Rhydychen, ef oedd y cyntaf yn y wlad hon i ysgrifennu ar Rifyddiaeth, Mesuryddiaeth, Algebra, a Seryddiaeth; ac ystyrid ef yn gyffredinol y dyn mwyaf dysgedig yn ei ddydd. Yr oedd hefyd yn ddiwinydd ac yn feddyg o'r radd uchaf. Bu farw yn 1558.



Llun 92.     Robert Recorde.

Trown o Sir Benfro i Sir Gaerfyrddin. Yn fuan ar ol darganfyddiad egwyddor y telescôp cawn fod THOMAS HARRIOT, y dyn mwyaf blaenllaw mewn gwyddoniaeth yn y wlad hon y pryd hwnnw, wedi danfon am rai o'r gwydrau. Cyfeillion mawr i Harriot oedd SIR WILLIAM LOWER, o Trefenty, yn agos i Lacharn, a JOHN PRYDDERCH [neu John Protheroe], o Nantyrhebog, Sarnau, yn yr un ardal. Anfonodd Harriot un o'r gwydrau i Lower a Prydderch, ac â hwn buont yn "arsyllu" yn Treventy yr un adeg ag oedd Galileo yn arsyllu yn yr Eidal, sef yn 1609. Ceir hanes o hyn gan Mr. Mee yn Knowledge a'r Nationalist. Un o Gernyw oedd Syr William Lower, ond ymbriododd â merch i Syr Thomas Perrot, a daeth i fyw i Treventy. Yr oedd tad Prydderch yn Uchel-Sirydd Sir Gaerfyrddin yn 1599, a'i fam yn ferch i Robert Byrt, Maer Caerfyrddin yn 1593. Ymbriododd Prydderch ad un o'r Vaughans, Gelli Aur, ac yr oedd yn un o gyndadau y Stepneys, Hamlyn Williams, a theuluoedd ereill. Nis gallwn lai nag edmygu y ddau seryddwr clodwiw hyn, a charwn ategu awgrym Mr. Mee, mai gweddus fyddai gosod i fyny gofeb yn Treventy i atgoffa'r ffaith mai yno y buwyd yn "arsyllu" yr wybren serennog gyntaf erioed yn y wlad hon, a hynny yn y flwyddyn gyntaf y daeth y telescôp i fodolaeth.



Llun 93.     Syr William Lower a John Prydderch.



Llun 94.     Treventy.

Rhaid camu dros gyfnod yn y fan hon, hyd at-

WILLIAM JONES, F.R.S., (1675-1749).-Ganed yn Llanfihangel-tre'r-Beirdd, Sir Fôn; Mesuronydd enwog, a chyfaill Syr Isaac Newton, Halley a Dr. Johnson. Mab iddo oedd yr ysgolor enwog Sir William Jones.

JOSEPH HARRIS (1702-1764).-Brawd hynaf Howel Harris, o Drefecca. Yr oedd yn enwog mewn gwyddoniaeth. Bu farw yn 1764, a cheir mur-gofeb o hono yn Eglwys Talgarth.

JOHN EDWARDS (1747-92).-Seryddwr a bardd; genedigol o Dinbych. Bu farw yn Llundain. Sylfaenydd Cymdeithas y Gwyneddigion.

LEWIS EVANS (1755-1827). Genedigol o Bassaleg. Adeiladodd Arsyllfa ar Woolwich Common.

NATHANIEL PIGGOT a'i fab, Frampton House, Bro Morgannwg. Arsyllwyr, a chyfeillion Maskelyne, y Seryddwr Brenhinol.

REV. T. W. WEBB, Ficer Hardwick, a mab i'r Parch. John Webb, gynt Ficer St. Ioan, Caerdydd. Ef yw awdur y llyfr rhagorol Celestial Objects for Common Telescopes. Ceir bywgraffiad o hono yn llyfr Mr. Mee, Observational Astronomy, ac hefyd yn y Dictionary of National Biography, gan yr un awdur.



Llun 95.     Parch. T. W. Webb

YR HYBARCH ARCHDDIACON W. CONYBEARE BRUCE (1844-1919- 75 mlwydd oed). Mab hynaf y Parch. William Bruce (yr hwn oedd frawd i'r Arglwydd Aberdar cyntaf), ac felly yn gefnder agosaf i'r Anrhyd. Mrs. Wynne Jones, priod y Parch. J. Wynne Jones, M.A., cyn-ficer Caernarfon, ond yn awr yn Ficer Llantrisant, Mon, ac yn byw yn hen balasty y teulu yn Tre Iorwerth. Addysgwyd yr Archdiacon yn Rhydychen, ac olynodd ei dad fel Ficer St. Nicholas, ger Caerdydd. Meddai ar delescôp deuddeng modfedd ardderchog, yn ogystal ag Arsyllfa. Yr oedd yn gydnabyddus â llawer o seryddwyr enwog, ac ar y ffordd i ddyfod yn seryddwr enwog ei hun, ond llwyr ymgysegrodd i waith yr Eglwys, a bu hynny yn enill i'r Eglwys, ac yn golled i Seryddiaeth. Yn y blynyddoedd diweddaf ymfodlonai ar delescôp pum modfedd. Yr oedd yn gymeriad gloew ac yn un sydd yn anodd ei or-ganmol.



Llun 96.     Archddiacon Bruce.

ADMIRAL SMYTH, taid i arwr Mafeking. Awdur A Cycle of Celestial Objects. Bu fyw am beth amser yn Nghaerdydd.

MR. FRANKLEN EVANS, yr hwn a roddodd y Telescôp presennol a'r Arsyllfa yn anrheg i Gaerdydd.



Llun 97.     Mr. Franklen Evans.

LEWIS WESTON DILLWYN (1778-1855).-O Benlle'rgaer. Er mai mewn llysieuaeth (botany) yr ymhyfrydai fwyaf, eto yr oedd yn enwog mewn llawer cangen o wyddoniaeth, ac yn gyfaill i Woolaston a Syr Humphrey Davy.

J. D. LLEWELYN, Penlle'rgaer, oedd enwog mewn gwyddoniaeth ac yn gyfaill mawr i'r enwog Iarll Rosse. Gosododd i fyny 4 3/4 Dollond telescôp yn Penlle'rgaer, lle y trig yn awr yr hynafgwr parchus Syr John Llewelyn, Bart., LL.D.

EDWARD MILLS, Llanidloes (1803-1865).-Ceir erthyglau gwerthfawr gan y diweddar Barch. Mordaf Pierce, yn y Traethodydd ar y tri "Millsiaid Llanidloes," sef Richard, John, ac Edward. Dywed am y Parch. John Mills, F.R.A.S., mai "anhawdd cael neb yng Nghymru yn ystod y ganrif oedd mor adnabyddus ac enwog mewn cynnifer o gyfeiriadau." Yr oedd Richard, hefyd, yn gymeriad o ddylanwad anarferol yn ei ddydd ynglyn â cherddoriaeth a dirwest. Edward oedd y seryddwr. Gwnaeth model o'r Cysawd Heulog; 66 troedfedd o amgylchedd, yn dangos holl symudiadau aelodau y Cysawd, ac yn un o "ryfeddodau yr oes," a bu beirdd y dydd yn canu ei glod. Cyhoeddodd hefyd gyfrol werthfawr, Y Darluniadur Anianyddol, tua'r flwyddyn 1850, 256 o dudalenau, a 80 o lumiau. Tua'r un flwyddyn symudoedd o Lanidloes i Dinbych, lle bu farw, ac y claddwyd ef yn 1865.

Bu llawer o Gymru o bryd i bryd ar y Staff yn Greenwich - yn eu plith y tri nesaf a enwir:-

J. W. THOMAS (Arfonwyson) (1805-1840).-Ganed ym mhlwyf Llandegai, ac addysgwyd yn ysgol Pentir, ac yn ddiweddarach gan Robert Roberts, Caergybi. Bu yn ysgolfeist yn Tregarth a Ffestiniog. Yn 1834 aeth i Lundain, a bu yn arolygydd yn yr Arsyllfa Frenhinol yn Greenwich, ac yno y treuliodd y gweddill o'i oes fer. Claddwyd yn St. Alphege, Greenwich.

THOMAS LEWIS, yr hwn a ymddiswyddodd yn ddiweddar. Ystyrir ef y prif awdurdod yn y wlad hon ar "sêr-dwbl."

EDWARD ROBERTS, prif gynorthwywr yn Swyddfa y Nautical Almanac.

ROBERT ROBERTS, Caergybi.-Seryddwr enwocaf Cymru yn ei ddydd. Yn y Cambrian am 1828 croniclir ei fod yn darlithio yn Gymraeg ar y testun. Selfanydd Almanac Caergybi.

JOHN JONES, Y SERYDDWR.-Ni fuasai pennod ar Seryddiaeth yng Nghymru yn gyflawn heb gyfeiriad teilwng at John Jones, y Seryddwr o Fangor, yr hwn a elwir "the working-man astronomer." Genedigol o Sir Fon; collodd ei dad pan yn ddeuddeng oed, ond yr oedd ei holl fryd ar ddysgu. Un o'r llyfrau cyntaf a dynnodd ei sylw oedd cyfieithiad Eleazar Roberts o waith Dr. Dick ar y Gyfundrefn Heulog, ac ymhen ychydig amser ei brif ymgais oedd gwneud telescôp iddo'i hun, ac fe wnaeth un, ac un arall ar ol hynny lawer iawn yn fwy. Dysgodd Roeg hefyd; yn wir, dywedai ei hun: "Yr wyf yn hoff o bob cangen o wybodaeth - yn hoff o Dan, Reuben, ac Issachar, - ond y mae genyf un ffafryn (favorite) - un Benjamin. Fe'i gwerthwn nhw i gyd i'r Aifft ond i mi gael cadw Benjamin - Seryddiaeth !" Tynnodd John Jones sylw Samuel Smiles, awdur Self Help, ac ymwelodd Smiles ag ef yn Bangor, ac ysgrifennodd hanes o hono yn ei lyfr Men of Invention and Industry. Ceir hanes hefyd gan Mr. Mee yn y The Nationalist, a chan Mr. Parry Jenkins, F.R.A.S., gynt o Golwyn Bay, ond yn awr yn Ontario, mewn llyfryn o'i eiddo, A Plea for the Reflecting Telescope. Gwnaed John Jones yn aelod o Gymdeithas Seryddol Cymru, ac ni fu neb erioed yn haeddu yr anrhydedd yn fwy. Bu farw John Jones yn 1898, yn 80 oed.



Llun 98.     John Jones, Y Seryddwr.

Seryddwyr ereill yn perthyn i'r un dosbarth â John Jones oedd THOMAS NORBURY a RHYS HOWELL o Ferthyr.

ELEAZAR ROBERTS (1825-1912).-Ganed ym Mhwllheil. Gofidus gennyf na chaniata gofod i mi fanylu, ond mae yr enw hwn yn hysbys ac yn perarogli drwy holl Gymru, ac ymhell tuhwnt i'w chyffiniau. Yr wyf yn ddyledus i'w fab-yngnghyfraith, y Parch. O. J. Owen, M.A., West Kirby, am y darlun o hono ef ac o Dr. Isaac Roberts a'i Arsyllfa, ac am ychydig o hanes y ddau gymeriad hyglod. Cyhoeddodd Eleazar Roberts lawer o weithiau: Cyfieithiad Dr. Dick's Solar System,, dwy gyfrol; lliaws o ysgrifau yn y Y Traethodydd dan y teitl "Yr Ysbienddrych a'i ddarganfyddiadau"; "Ymgom am y Ser" yn yr Ymwelydd Misol; ynghyda llawer iawn o erthyglau yn y Y Geninen a chylchgronau ereill, ar wahanol faterion yn ogystal a Seryddiaeth. Yr oedd ganddo Arsyllfa yn Hoylake, ac yr oedd yn gyfaill mynwesol i'r Dr. Isaac Roberts. Gresyn na fuasai gofod yn caniatau i ni roddi ychwaneg o fanylion am gymeriad mor bur ac annwyl, am athrylith mor ddisglair, ac am fywyd mor llawn o weithredoedd da. Do, machludodd seren o'r first magnitude o ffurfafen byd ag eglwys y Cymro pan hunodd y Cristion addfed hwn yn 1912, yn 87 oed.



Llun 99.     Mr. Eleazar Roberts.

ISAAC ROBERTS, D.SC., F.R.S., F.R.A.S. (1829-1904). Genedigol o'r Groes, ddwy filltir o Dinbych. Credwn yr eddyf pawb mai hwn yw un o'r seryddwyr mwyaf, os nad y mwyaf oll, a fagodd Cymru erioed. Heblaw y gydnabyddiaeth a wnaed uchod i'r Parch. O. J. Owen, yr wyf yn ddyledus hefyd i Mr. Isaac Davies, 41, The Woodlands, Birkenhead, am rai manylion am Dr. Isaac Roberts. Ceir hanes da am dano yn y Y Geninen am 1904 gan y diweddar Eleazar Roberts, ac eto gan yr un awdur yn yr Ywelydd Misol, am Awst, 1905. Mae'n debyg fod ei rieni wedi ymfudo i'r America pan oedd yn blentyn, ond wedi dychwelyd yn lled fuan i Lerpwl. Prentisiwyd ef gyda Mri. Johnson, contractors, a chododd yn raddol yn ei fusnes, ac enillodd lawer o gyfoeth. Gwrteithiai ei feddwl ar yr un pryd, drwy Seryddiaeth yn bennaf. "Arsyllai" yn Rock Park a Maghull, ac yn ddiweddarach adeiladodd Arsyllfa, yr hon a gostiodd filoedd o bunnau, yn Crowborough, Sussex. Tynnu gwawl-luniau (photos) o'r sêr oedd ei hoff waith. Cyhoeddodd ddwy gyfrol werthfawr - Photos of Stars, Star-clusters and Nebulae. Mae ei lafur wedi helaethau ein gwybodaeth seryddol yn aruthrol. Yn ei flynyddoedd olaf cafodd lawer o gynhorthwy gan ei ail wraig, Dorethea Klumpke Roberts, sydd ei hun yn y rheng flaenaf ymhlith seryddwyr, ac yn awr yn byw yn San Francisco. Fel prawf o'i serch at ai wlad, yr hon a garai yn angherddol - yr oedd yn Gymro i flaenau ei fysedd - gadawodd yn ei ewyllys swm tywysogaidd i Golegau Caerdydd, Bangor a Lerpwl. Bu farw yn dra sydyn yn 1904 yn Crawborough yn 75 mlwydd oed. Ar ol cremation bu ei ludw yn gorwedd yno am tua pum mlynedd, pryd y codwyd as yr ail-gladdwyd ef yng nghaddfa Flaybrick Hill, Birkenhead. Mae ei fedd-argraff yn nodedig:-

"In memory of Isaac Roberts, Fellow of the Royal Society, one of England's pioneers in the domain of Celestial Photography. Born at Groes, near Denbigh, January 27, 1829, died at Starfield, Crowboro, Sussex, July 17, 1904, who spent his whole life in the search after Truth, and the endeavour to aid the happiness of others. Heaven is within us. This stone is erected in loving devotion by his widow

Dorethea Roberts née Klumpke."
Ar dalcen arall y garred ceir:-
"Heaven is within us, and we have the power to dwell in it all the days of our life in full happiness, or we may decline and make ourselves miserable with `cibau gweigion ffol.' Bydded inni `ddewis y rhan dda.'"




Llun 100.     Dr. Isaac Roberts.



Llun 101.     Dr. Isaac Roberts - Ei Arsyllfa.

Dylid crybwyll yn awr am Gymdeithas Seryddol Cymru, ac wele ychydig o hanes ei sylfaeniad gan Mr. Mee. "Pan ddeuthum i Gaerdydd gyntaf gofynnais i un o seryddwyr mwyaf adnabyddus Caerdydd a fuasai yn bosibl sefydlu Cymdeithas Seryddol yno. Ofnai hwnnw ei bod yn amhosibl. Ychydig yn ddiweddarach, daeth Mr. Norman Lattey ataf i ymgynghori ymhellach ar y pwnc, gyda'r canlyniad i ni alw cyfarfod yn niwedd 1894, a ffurfiwyd y gymdeithas. Daeth y boneddwr a ofnai nad oedd yn bosibl ei sefydlu yn un o'i llywyddion. Yn ddiweddarach, rhifai yr aelodau 200. Daeth i derfyniad gyda'r rhyfel."



Llun 102.     Arsyllfa Caerdydd.



Picture 103.     Telescôp Caerdydd.

Wele rai o'i haelodau; palla gofod i ni enwi llawer o honynt.

MR. ARTHUR MEE (1860-).-Ganed yn Aberdeen, mab y Parch. G. S. Mee ac Elizabeth, merch J. Phillips o Sir Benfro. Ymbriododd yn 1888 Claudia, merch y diweddar D. Thomas, Llanelli. Daeth i Gaerdydd yn 1892, ac yno y mae heddyw, ar staff yWestern Mail, ac yn byw yn Tremynfa, Llanishen. Nis gallwn roi ond crynhodeb o'i fywyd a'i waith. Mae yn gymeriad amryddawn ac amlochrog - seryddwr, hanesydd, hynafiaethydd, a bardd; awdur Observational Astronomy; Heavens at a Glance; Reminiscences of an Amateur Astronomer; Story of the Telescope. Gynt yn F.R.A.S.; yn awr yn aelod o'r B.A.A. and Societe Astronomique de France. Bu yn defnyddio ei adlewyrchydd wyth modfedd a hanner am lawer blwyddyn, ond gwnaeth anrheg o hon i Barri, ac yno y mae heddyw mewn lle cyfleus ar y Buttrils, a defnyddia yn awr ei wydr chwe modfedd. Mae wedi darthlio llawer yn ei amser, ac wedi cyfrannu llawer i gyhoeddiadau fel y Knowledge, y B.A.A., a'r English Mechanic. Ef a ddug allan Who's Who in Wales. Mae yn un o'r rhai mwyaf gwylaidd a gostyngedig a rodia'r ddaear. Ei hoff waith yw cynorthwyo ereill ymhob modd yn ei allu, ac mae ugeiniau o seryddwyr ieuainc heddyw yn ddyledus iddo am hyfforddiant, ac yn canu ei glod.

MR. JOHN REES, F.R.A.S., F.R.G.S., Penarth (1862-), oedd ysgrifenydd Cymdeithas Seryddol Cymru hyd ei therfyniad. Genedigol o Gaerdydd, addysgwyd yn Ysgol Ramadegol Professor Lewis. Mae yn defnyddio Gwrthdoriedydd pedair modfedd a chwarter; wedi darlithio llawer ar Seryddiaeth a Phyramidiau yr Aifft, ac yn un sydd yn llenwi llawer o swyddi.

Y diweddar MAJOR-GEN. LEE, F.R.A.S., Dinas Powis.- Seryddwr eiddgar a chymeriad cadarn.

Y diweddar MR. T. E. HEATH, Penarth.- Seryddwr medrus iawn. [Gwel tudalen 50].

PARCH. W. E. WINKS.- Ganed yn Leicester,1842, ac yn awr (1923) yn 81 oed. Yn seryddwr ar hyd ei oes; yn "arsyllu" Comed fawr 1858, ac wedi gwneud lluniau ohoni. Mae wedi ysgrifennu yn helaeth i'r Wasg ar Seryddiaeth, ac wedi darlithio llawer iawn. Defnyddai Cooke Refractor, pedair modfedd. Mae Mr. Winks yn ddyn tirion, caredig, ëangfrydig, ac yn wir Gristion.



Llun 104.     Parch. W. E. Winks.

MR. ALBERT TAYLOR, F.R.A.S., Penarth. - Seryddwr rhagorol; aeth unwaith o leiaf i wledydd pell dros y Llywodraeth i wylied Diffyg Cyflawn ar yr Haul.

MR. NORMAN LATTEY, Bristol. - Seryddwr enwog iawn.

MR. DAN JONES, B.SC., F.R.A.S. - Seryddwr goleuedig. Mae telescôp mawr Caerdydd o dan ei ofal.

REV. ELLIS GREGORY ROBERTS, M.A. - Rheithor Alberbury; mab y diweddar Ganon Ellis Roberts. "Arsyllwr" diwyd tra gallodd.

MR. HARRY SAMUEL WILLIAMS, M.A., F.R.A.S., Abertawe. Seryddwr da iawn.

MR. G. PARRY JENKINS, F.R.A.S. - Ganed yn Llancynfelin, Sir Aberteifi, yn Medi, 1860. Bank Manager yn Colwyn Bay am rai blynyddoedd, lle y bu yn seryddwr diwyd, yn arsyllu, ysgrifennu, a darlithio. Symudodd i Canada yn 1902, ac ymsefydlodd yn Toronto, lle mae yn parhau i ddarlithio. Heblaw bod yn F.R.A.S., ac yn aelod o'r Gymdeithas Seryddol Brydeinig, mae hefyd yn Gymrodor o Gymdeithas Seryddol Canada. Yr oedd yn aelod o'r Canadian Eclipse Expedition, Labrador, yn 1905. Bu am rai blynyddoedd yn Is-Lywydd Cymdeithas Seryddol Cymru, ac mae yn seryddwr o'r iawn ryw, ac yn ddiwyd a gweithgar o blaid y wyddoniaeth, yn enwedig drwy ddarlithio.



Llun 105.     Mr. G. Parry Jenkins.

MR. W. S. WARREN, F.R.A.S., Caerdydd. - Aelod gweithgar ac Is-lywydd Cymdeithas Seryddol Caerdydd. Mae yn ddiweddar wedi dyfeisio equatorial stand ddefnyddiol iawn i drem-wydrau bychain.

MR. J. E. JONES, Tybrith, Llanrhaiadr-yn-Mochnant. - Farmer-Astronomer, yn "arsyllwr" craff, ac yn cymryd diddordeb mawr mewn Seryddiaeth.

MR. JAMES WILLIAMS, Ystalyfera, a MR. POWELL, Aberdare. - Seryddwr da,

Dylid dweyd tipyn am Gymdeithasau Seryddol. Ni chefais fanylion am Gymdeithas Barri, ond deallaf ei bod yn lewyrchus.

Cymdeithas Seryddol Caerdydd. - Ffurfiwyd yn Mai, 1922. Llywydd, Mr. W. Waters, B.A. Is-lywyddion, Mri. Dan Jones, B.Sc., F.R.A.S., a Mr. W. S. Warren, F.R.A.S. Ysgrifennydd, Mr. S. Shurmer, B.A. Tua 40 o aelodau.

Cymdeithas Seryddol Dyffryn Llynfi, Maesteg. - Ffurfiwyd yn Rhagfyr, 1921. Tua 50 o aelodau. Cynhelir cyfarfodydd ar hyd a lled y dyffryn ac mae 3 1/2[-modfedd] Cooke Refractor- eiddo y Gymdeithas- at wasanaeth yr aelodau, y rhan fwyaf o honynt yn lôwyr. Y swyddogion presennol ydynt: Y Parch. W. Edwards, M.A., F.R.A.S., Llywydd; Mr. Dan Jones, B.Sc., F.R.A.S.; Mr. A. J. Lloyd; Mr. W. J. Waters, M.B.A.A., a Cadben D. J. Griffiths, Is-lywyddion; a Mr. Ll. C. Lloyd, M.B.A.A., Ysgrifennydd.



Llun 106.     Parch. W. Edwards, M.A.

PARCH. WILLIAM EDWARDS, M.A., F.R.A.S., Caerau, Bridgend. - Ganed yn Talybont, sir Aberteifi, yn 1884, ac addysgwyd yng Ngholeg Trefecca, a Phrifysgol Cymru, Caerdydd. Cymer ddiddordeb mawr iawn mewn Seryddiaeth, ac mae wedi darlithio llawer ar y testyn oddiar 1909 yn ardaloedd Aberdar a Merthyr. Llywydd Cymdeithas Seryddol Dyffryn Llynfi, Maesteg.

MR. WILLIAM JOHN WATERS. - Ganed yn Aberkenffig, 1875. Aelod o'r B.A.A. Er yn blentyn mae wedi bod yn brysur yn "gwneud rhywbeth." Dechreuodd weithio yn dair ar ddeg oed. Ar hyd ei oes bu yn ddarllenwyr anniwall, ac erbyn hyn mae ganddo wybodaeth helaeth o Wyddoniaeth, Mesuroniaeth, a Model-Engineering. Yn ddeg ar hugain oed dechreuodd ar Seryddiaeth, a meistrolodd ei helfennau mewn byr amser, a gwnaeth Refractor dwy fodfedd a hanner yn 1910, ac yn 1913 Reflector chwe modfedd a chwarter. Yna daeth i gyffyrddiad agosach â Mr. Mee, ac erbyn hyn mae llawer o'i waith wedi ymddangos yn yr English Mechanic. Mae wedi darllen papurau a dangos models o'r Haul, y Lloer a'r Planedau, o'i waith ei hun, i Gymdeithas Seryddol Maesteg. Mae llawer o ymwelwyr wedi cyrchu at Mr. Waters i gael edrych drwy y syllwydrau o'i wneuthuriad ei hun. Mae yn dal i arsyllu ar y Lleuad a'r Planedau, ac yn ceisio darganfod Comedau. Mae yn esiampl deilwng o ddiwydrwydd a dyfalbarhad ymhlith meibion athrylith, ac ar yr un pryd, i goroni'r cwbl, yn un o'r dynion mwyaf gostyngedig.

MR. TALIESYN KENWIN JENKINS. - Ganed yn Blaina, 1879, yn awr yn byw yn Nantyglo. Dechreuodd arsyllu yn ieuanc, a thra yn blentyn gwnaeth dremwydr dwy fodfedd. Ymddanghosodd llawer o'i waith yn yr English Mechanic, a Knowledge. Trwy gymorth y Parch. W. F. A. Ellison gwnaeth Adlewyrchydd chwe modfedd a chwarter. Mae hefyd wedi adeiladu organ, 2-manual, yn hollol yn ol ei gynllun ei hun, ac y mae hefyd yn gynllunydd diail mewn trydaniaeth diwifrau.



Photo.]           [A.L. Crancy

Llun 107.     Mr. T. K. Jenkins, Nantyglo.

MR. CARADOC MILLS, Llanrwst. - Yn hanu o deulu "Millsiaid, Llanidloes." Addysgwyd yn Mhrifysgol Bangor. Awdur y llyfr seryddol arddechog, Y Bydoedd Uwchben. Mae y Milwriad Dr. Mills Roberts hefyd yn hannu o'r un teulu.

MR. ALFRED DANIELL, M.A, LL.B., D.SC, F.R.S.E. Ganed yn Llanelli, 1853. Dyn hyddysg iawn mewn Anianyddiaeth.

DR. PERCY BILLUPS, F.R.A.S., Barry Island. - Ganed yn Deptford, 1859, ac addysgwyd yn Llundain. Er 1872 mae yn ddiwyd ym maes Seryddiaeth, yn fesuronol ac arsyllol, â'r telescôp a'r spectroscôp; yn llwyddianus iawn ynglyn â'r Comedau, ac wedi darganfod Comed 1910 [mae hyn yn awgrymu oedd o'n un o lawer o ddarganfyddwyr Comed Golau Dydd 1910, yr oedd, gyda Comed Halley, un o'r dwy comedau disglair ym 1910]. Hefyd canfu Gomed Daniel bron yr un amser â'r darganfyddwr. Defnyddia ddau Adlewyrchydd saith modfedd a hanner a saith modfedd a thri chwarter - un yn dydd at yr Haul a'r llall yn y nos. Llywydd hen Gymdeithas Seryddol Cymru, ac hefyd Gymdeithas Seryddol Barri.



Llun 108.     Mr. O. J. Owen, Abergavenny.

MR. OWEN JOHN OWEN, Minerva Press, Abergavenny. - Ganed yn Dolgelley, 1867. Saif yn uchel fel Arweinydd Canu, Llenor, Efengylyd, ac fel Seryddwr. Mae llawer o'i waith fel arsyllydd ar y Comeday, y Planedau, a'r Lleuad wedi ymddangos yn yr English Mechanic.

MR. EDWIN VAUGHAN OWEN, brawd yr uchod. Ganed yn Dolgelley, 1870. Bardd, Llenor, Efengylydd, a Seryddwr. Cydlafuria â'i frawd ar faes Seryddiaeth, a'r ddau yn ddiwyd a defnyddiol iawn.

MR. ERNEST MADGE, Morriston. - Ganed yn Tongwynlais, 1876. Mae yn cymryd diddordeb mawr mewn gwneuthur gwydrau i ysbiendrychau adlewyrchol, ac wedi gweud tua hanner dwsin, yn amrywio o bedair modfedd i ddeng modfedd a hanner, ac y mae ganddo Adlewyrchydd (Reflector) saith modfedd a thri chwarter o'i wneuthuriad ei hun. Mae hefyd wedi cymhwyso syllddrychau i dynnu gwawl-luniau, ac wedi llwyddo i gael darluniau rhagorol o'r Haul a Lleuad. Ymddengys rhai o'i ddarluniau o'r Diffygiadau ar yr Haul yn 1912, yn ogystal â lluniau o'r Lleuad a Haul-frychau, yn Y Bydoedd Uwchben [llyfr gan Caradoc Mills].



Llun 109.     Mr. Ernest Madge.

MR. THOMAS HARRIES, Llanelli. - Ganed yn Felinfoel, yn 1871. Pan oedd tua pymtheg oed astudiodd lyfr Dr. Chalmers, Darlithiau ar Seryddiaeth a'r Beibl; ac hefyd yr Anianydd Cristionogol], a Cysawd Heulog, Celestial Scenery, a Sidereal Heavens, (Dr. Dick). Gymaint oedd ei barch i'r awdur hwn fel y pwrcasodd bob llyfr o'i waith. Yn nesaf astudiodd weithiau Proctor a Syr Robert Ball, a phrynodd dremwydr o waith Browning. Pan oedd tua 26 oed ymgymerodd ag astudio Ffrangeg ac ymgydnabu mor drwyadl â Les Etoiles, Flammarion, fel y gallai adrodd bron bob tudalen o hono. Yn 1901 enillodd distinction mewn Seryddiaeth (Extension Lectures) pan oedd yr Athro. H. H. Turner yn arholydd. Cafodd lawer o gynhorthwy uniongyrchol gan yr Athro C. A. Young, o Princeton [sic. - Princeton], awdur adnabyddus y General Astronomy, ac hefyd gan y diweddar rifyddwr medrus, Mr. C. T. Whitmell, M.A. Mae hefyd wedi astudio llawer ar Fesuroniaeth, a gweithia allan broblemau dyrys. Mewn ystyr ymarferol mae Mr. Harries wedi talu sylw arbennig i Haulfrychau, Comedau, Llewyrnau, a Diffygiadau, ac mae wedi cyfranu erthyglau i bapurau Gwyddonol, ac y mae bob amser yn eiddgar dros ledaenu gwybodaeth ymhlith y dosbarth gweithiol.



Llun 110.     Mr. Wilkins a Mr. Harries.

MR. HUGH PERCIVAL WILKINS, Llanelli. - Ganed yn Caerfyrddin, 1896, ac addysgwyd yn yr Ysgol Ramadegol yno. Engineer ydyw o ran ei alwedigaeth. Carai Seryddiaeth er yn blentyn, ac y mae yn arsyllydd er 1908. Tra yn gwasanaethy yn y Royal Army Service Corps yn y rhyfel mawr gwnaeth ddefnydd helaeth o'r Cooke Equatorial pedair modfedd a chwarter yn York. Etholwyd ef yn aelod o'r B.A.A. yn 1918, drwy gymeradwyaeth yr enwog Mr. Denning. Edwyn Mr. Mee yn dda er's llawer blwyddyn, a derbyniodd lawer o gefnogaeth ganddo. Ei feysydd neilltuol mewn Seryddiaeth yw: y Lleuad a'r Sêr-cyfnewidiol. Mewn prethynas i'r blaenaf mae bron wedi cwblhau un o'r mapiau mwyaf cyflawn a wnaed erioed, chew troedfedd o drawsfesur. Er's llawer blwyddyn mae wedi arsyllu y dyffryn dolennog ger Herodotus, ac mae ei ymchwiliadau ef a'i gydlafurwr Capt. Bourgon, o Arras, yn y rhan hon o'r Lleuad, wedi eu cyhoeddi yn y B.A.A. Journal. Gyda golwg ar y Ser-newid eto, mae wedi cydymffurfio &acrirc; chynllun y B.A.A. ac wedi gwneud gwaith mawr. Mae hefyd yn photographer seryddol llwyddianus, ac wedi tynnu lluniau da o Ddiffygiadau yr Haul a'r Lleuad, ac mae llawer o honynt wedi cael eu harddangos o bryd i bryd yn llyfrgell ganolog Caerdydd. Nid yw Mr. Wilkins ond yn ifanc eto, a diau gellir disgwyl llawer ganddo yn y dyfodol.

MR. WILLIAM JAMES LEWIS, M.A., F.R.S., F.R.A.S., Caergrawnt. - Cymrawd o Goleg Oriel, Rhydychen. Ganed yn 1847. Mab y diweddar Barch. J. Lewis, Ficer Bonvilston. Aeth ddwywaith i wylied Diffygiadau Cyflawn ar yr Haul, yn 1870 i'r Ysbaen, ac yn 1871 i Ceylon.

CAPT. T. LUTHER EVANS, F.R.A.S., F.R.G.S., Weston-super-Mare. - Ganed yn 1852, yn Aberaeron. Deil syniadau pendant am Seryddiaeth, ac wele grynodeb o honynt, gwir deilwng, mi gredaf, eu croniclo: "Yr wyf yn gwahaniaethu oddiwrth lawer sydd yn awr yn dal athrawiaeth Darwin, fod y byd wedi dod i fodolaeth drwy Ymddatblygiad Evolution, ac nid fel yr ydym yn darllen y Beibl. Yr wyf yn dal yn dyn wrth y Beibl fod y byd hwn a'r holl fyoedd ereill wedi eu creu gan Creawdwr Mawr. Cymerer, er enghraifft, y Gyfundrefn Heulog. Mae yn ynfyd ac yn ddrygionus i gredu rhyw ddamcaniaethau ffôl nas gall neb eu profi. Er ein bod yn ar yn annghredu llawer o syniadau ein hynafiaid, eto nid oes yr un Anianydd wedi gallu profi ei ddamcaniaeth mai cruglwyth o nwyau oedd ein byd ni yn ei gyflwr cyntefig, a'r rhai hynny wedi graddol oeri yng nghwrs miliynau dirifedi o flynyddoedd, a bod bywyd wedi tarddu o'r diwedd o protoplasm. Yr wyf yn deall eu daliadau yn iawn, ond ni chaed profion, ac ni cheir byth, ac am hynny yr wyf yn hollol wrthwynebol i ddaliadau nas gellir eu profi. Fy syniad i am Seryddiaeth ydyw, ei bod wedi ei hamdoi â dirgelwch annhreiddiadwy, ac y pery felly. Yr wyf wedi darllen llawer o lyfrau diddorol iawn ar y pwnc, ond ni welais ddim eto i'm hargyhoeddi fod un rheswm dros gredu fod y byd yma wedi dod i fodolaeth ond drwy gael ei greu gan Dduw Hollalluog, Rheolwr y Bydysawd; mae pob ymresymiad i'r gwrthwyneb wedi ei seilio ar ddamcaniaethau Gwyddonol, rhai o honynt yn ddigon iach, ond nis gallant wrthbrofi mai Duw a wnaeth y byd a phopeth welwn yn y dydd ac yn y nos. Yng nghwrs fy mhrofiad hirfaith ar y m&ocric;r, yn teithio i wledydd pellennig, yr wyf wedi canfod llawer gweledigaeth ysblennydd ar ganol yr eigon, a chredaf fod dirgeledigaethau yn y nefoedd uwchlaw nas gall byth eu deongli."

REV. W. PHILLIPS, M.A., F.R.A.S., Llandudno. - Ganed yn 1870, yn Pentredwr, Llansamlet, ac addysgwyd yn Arnold's College, Abertawe; Prifysgolion Aberystwyth, Glasgow a Durham; a graddedig o'r olaf. Mae yn seryddwr eiddgar.



Llun 111.     Parch. W. Phillips.

REV. DR. TEGFAN DAVIES, D.D., F.R.A.S., Ammanford. - Ganed yn 1883 yn agos i Peniel, plwyf Abergwili. Addysgwyd yn Caerfyrrdin a Bangor. Tueddwyd ei feddwl at Seryddiaeth, yn gyntaf oll, gan ei daid, yr hwn oedd wedi darllen llyfrau Dr. Dick a Dr. Nicholl ar y pwnc, a'r hwn hefyd oedd yr unig un yn yr ardal wledig o amgylch Abergwili a gymerai ddiddordeb mewn Seryddiaeth yr adeg honno. Mae Dr. Tegfan Davies byth oddiar hynny wedi cymryd diddordeb dwfn mewn Seryddiaeth, ac wdi ymweled âg Arsyllfäoedd mawr y wlad hon a'r Cyfandir. Mae wedi ymohebu llawer â Mr. Arthur Mee, yr hwn a ddywed am dano, "He takes an ardent interest in the heavens in more senses than one." Eto: "I must congratulate him on having seen two daylight meteors, a feat which very few astronomers, amateur or professional, can boast of." (Gwel PENNOD XX). Mae wedi darlithio llawer ar Seryddiaeth a Seryddwyr i bobl ieuainc a phlant, tystiolaeth y rhai am dano yw, "Mae wedi ein dysgu ni i edrych i fyny." Fel hyn y terfyna lythyr diddorol ataf: "Mae fy anwybodaeth o'r wyddoniaeth yn fawr; er hynny, mae Seryddiaeth yn ddalen o fy Meibl - yn rhan o fy nghrefydd - rhydd i mi ymwybyddiaeth o'r Duw Mawr! Pan dyrr rhywbeth ar dawelwch fy nghalon yn ystod y dydd, yna pan ddaw'r nos, rhydd oedfa'r sêr i mi dangef tawel lon'd fy nghalon. Wedi hynny noswyliaf yn naws eilfyd heb bryder dan fy mron." Swynol iawn, onide ?



Llun 112.     Parch. Dr. Tegfan Davies.

REV. DAVID EVANS, B.A. (1858-1910). - Ficer Conwil Elfed, Caerfyrddin. Ganed yn Bwlchygraig, Lledrod, ac addysgwyd yn Ysgol henafol Ystradmeurig, ac yng Ngholegau Aberystwyth a Durham (B.A.). Ganddo ef yr oedd y telescôp mwyaf o lawer yng Nghymru, 18 modfedd - adlewyrchydd o wneuthuriad T. Cooke, Llundain, mewn Arsyllfa ar fryn uwchben Conwil. Yr oedd y diweddar Ficer yn seryddwr goleuedig. Ar ol ei farwolaeth yn 1910 gwerthwyd y telescôp i Mr. Field, Hazlewood, Dunton Green, Kent.

MR. H. W. EVANS, J.P., F.R.A.S., Harbour House, Solva, sir Benfro. - Ganed yn Solva, 1859, ac addysgwyd ef yno ac hefyd yn Ysgol Dr. Propert, Tyddewi. Dyn amryddawn iawn - adeiladydd, adaryddwr, croenofydd, gweidyddwr, eisteddfodwr, llenor, arweinydd, beirniad, a cherddor - ac yn hynod fedrus yn yr oll. Fel seryddwr, er yn blentyn cymerai ddiddordeb mawr ym myd yr heuliau a lleuadau Iou, ac efrydai weithiau Dr. Dick, ac yn ddiweddarach eiddo Ball, Dunkin, Proctor, Heath, Maunder, etc. Mae wedi darlithio ac ysgrifennu llawer ar y sêr, ac ar Pyramid of Cheops yr Aifft: a chyhoeddwyd ad-argraffiad o'r gwaith hwn fel yr ymddangosodd yn y Cymro (Dolgellau), Ionawr 17, 24, a 31, 1923; ynghydag erthygl yn y Cymro, Hydref 4, 1922: "Gwibdaith i'r Eangderau"; erthygl seryddol a cherddorol arall ar The First Anthem and its Composer, ar y testyn "Pan gydganodd sêr y bore." Saesneg yw hon, a cheir ad-argraffiad o honi o'r County Echo, Fishguard, Hydref 21, 1920. Y mae yn ddiddorol ychwanegu fod y gwr gwir amryddawn hwn yn llawn mor gartrefol yn yr iaith Saesneg ag ydyw yn yr hen Gymraeg.



Llun 113,     Mr. H. W. Evans.

Ceir hefyd y rhai canlynol ar restr yr F.R.A.S.:-

MR. JOHN A. RUPERT-JONES, Commander, R.D., R.N.R., Tide House, Milford Haven. - Ganed yn Sandhurst, 1874, ac addysgwyd yn Christ's Hospital mewn mesuroniaeth a seryddiaeth forwriaethol. Mae wedi astudio llawer ar ddeddfau llanw y môr, wedi cyhoeddi hanes Rosyth, ac wedi cynorthwyo y Môrlys mewn amryw gyfeiriadau.

MR. DONALD LUTHER EDWARDS, Norman Lockyer Observatory, Sidmouth. - Ganed yn Peterboro, 1884.

MR. JOSEPH EDWARD EVANS, B.A., Beulah, Redhill, Surrey.

MR. LEWIS EVANS, J.P., F.S.A., Sidmouth.

MR. E. LEWIS JONES, B.SC. Troedyrhiw, Merthyr Tydfil.

MR. RHISHARD LLEWELYN JONES, M.A., Glanmerin, Machynlleth.

PARCH. J. PIERCE PRICE, Bryn Wynno, Porth, Rhondda.

MR. JAMES S. LEWIS, Jesmond Dene, Airdrie, Scotland.

MR. WILLIAM H. REES, B.SC., Pontypridd.

MR. DAVID WILLIAMS, B.SC., Rhodes University, Grahamstown.

MR. J. E. GRIFFITH, Bryn Dinas, Bangor.

Ar restr aelodau y Gymdeithas Seyddol Brydeinig (B.A.A.) ceir y tri nesaf.

Y PARCH. FREDERICK CHARLES DAVIES, The Vicarage, Reigate.

MR. JOHN BENNETT PRICE, Dyserth Castle, Flintshire.

MR. THOMAS JOSEPH REES, 2, Hall Street, Ammanford.

MR. J. C. M. MORGAN-JONES, The Cottage, Llanllechid. Ganed yn 1895 yn Ficerdy Abererch, lle yr oedd ei dad, y diweddar Barch. J. Morgan-Jones, yn Ficer ar y pryd. Addysgwyd yn Ysgol St. Edmund, Caergaint, o 1907 i 1914, pryd yr ymunodd â'r Fyddin fel swyddog yn y 14th Batt. R.W.F. [Royal Welch Fusiliers]. Mae yn cymryd diddordeb mawr mewn Seryddiaeth, ac wedi gwneud llawer o waith seryddol ynglyn â'r R.G.S [Royal Geographical Society], Llundain. Mewn llythyr ataf dywed: "Da genyf glywed fod eich llyfr yn cael ei ysgrifennu yn Gymraeg, gan y credaf y bydd yn cyflenwi angen, fel y dengys y digwyddiad bach canlynol. Yr hâf diweddaf, tra yr oeddwn yn cymryd mesuriad safle rhyw seren neilltuol, yr oeddwn yn sefyll ar ganol cae, a daeth amaethwr ataf, ac wedi deall natur y gwaith oedd genyf mewn llaw, cynghorodd fi yn garedig i fyned i ben arall y cae er mwyn bod yn agosach at y seren, ac y cawn felly ei gweld yn well o lawer!"

JOHN ALUN LLOYD, M.B.A.A., Telpyn Smithy, Rhewl, Ruthin. - Wele ei hanes, air am air, ganddo ei hun, ar fy nghais:-



Llun 114     Mr. J. Alun Lloyd gyda'i Delescop.

"Teimlaf yn bur amharod i gymryd fy ysgrifbin i fyny gyda'r amcan o ysgrifennu dim o hanes fy mywyd. Bachgen lled ieuanc wyf, saith ar hugain oed, ac nid wyf wedi gwneud rhyw lawer mewn Seryddiaeth eto; breuddwydion sydd genyf ac nid cofion.

Ganwyd fi yng Ngwern-y-Mynydd, ger y Wyddgrug, yr ail ddydd o Fedi, yn y flwyddyn 1895. Oddiyno symudodd fy rhieni i dref y Wyddgrug lle dilynai fy nhad ei alwedigaeth fel gôf yng ngwasanaeth Mr. Thomas Roberts, contractor.

Pan oeddwn tua tair oed, symudwyd i Benycae ger Rhiwabon. Bu fy nhad yn cadw yr efail ym Mhenycae am bedair blynedd ar ddeg neu, hwyrach, y dylaswn ddweyd mai yr efail oedd yn ei gadw ef.

Bum yn ysgol elfennol Penycae am dymor, ac wedyn yn Ysgol y Cynghor, Acrefair, o dan Mr. William Parry, yr ysgolfeistr goreu yn ddiddadl y deuthum i gyfarfydiad ag ef erioed.

Yr oedd yno hefyd athro sydd a'i ddylanwad arnaf hyd hyddyw, sef Mr. Ll. Moss Davies. Bydd gennyf barach dwfn i'r gwr hwnnw tra byddaf byw.

Oddiyno cefais fynd i Ysgol Ramadegol Rhiwabon, lle bum am gyfnod, ac yna deuais i weithio i'r efail at fy nhad.

Yn 1912 symudwyd i Woodseaves, yn swydd Stafford, ond er fod y wlad yn brydferth, lle pur anghysbell ydoedd - chwe milltir o'r orsaf agosaf. Blwyddyn y bum yno. Yna i'r Rhewl, ger Rhuthyn, lle yr wyf yn dilyn yr un alwedigaeth.

Beth a'm gwnaeth yn seryddwr? Gofynnir y cwestiwn yna i mi yn aml. Nis gallaf ei ateb ond fod rhyw duedd ynof at Seryddiaeth er yn blentyn. Cofiaf yn dda fel y tremiwn ar "Gomed Halley" drwy binocular fieldglass [yn 1910]. Dyna yr offeryn cyntaf oedd gennyf. Yna marcio ar y map ei safle ymhlith y sêr. Darllen popeth gawn afael arno yn ymdrin â Seryddiaeth. Poeni uwch eu pennau nes eu deall. Weithiau mewn gofid blin oherwydd methu eu deall a neb o'm cwmpas yn alluog i esbonio.

Gweled mewn ffenestr pawn-shop yng Ngwrecsam ysbienddrych ardderchog, yn agor allan i tua dwy droedfedd o hyd a'r object-glass yn fodfedd a hanner o dryfesur. Beth oedd ei bris? Sofren, meddai y siopwr. Ond nid oedd sofren gennyf ar y pryd, cofiwch mai hogyn oeddwn. Adref wedyn, a thrwy ddyfal chwilio cefais hyd i ychydig sylltau a chafwyd y gweddill gan fy nhad i'w gorffen yn sofren. Y noson hono dychwelais i Wrecsam a phrynais yr offeryn.

Bu yn dremiadur bach da, a chedwais ef am flynyddoedd. Mae y note-books gennyf yn rhywle, 'rwyf yn credu, lle yr ysgrifennwn fy arsylliadau i lawr â phin ac inc.

Gwelid ambell i seren-ddwbl dlôs drwy y tremiadur bach. Gydag ef y gwelais gip o wregysau Iou a modrwy Sadwrn gyntaf erioed. Gydag ef y cefais gyntaf rhyw gip o olwg ar ogoniant y Cwmwl-sêr Great Nebula yn Orion. A chydag ef y gwelais y llosg-fynyddoedd yn y Lleuad, yr hyn a'm hysgogodd i wneud y Lleuad yn brif faes fy astudiaeth.

Toc, cefai un o cardboard telescopes Mr. Burnerd, ac nis gall yr un seryddwr ieuanc ddeisyfu dim yn well. Dyma yn ddios dremiadur perffaith os bu un erioed. Nid oedd gwall arno o gwbl. Danhosai y sêr yn bynciau bychain, glân, ynghyda diffraction rings (ni wn am air Cymraeg) perffaith-gwbl. Edifarhëais ganwaith, do filwaith, ei werthu. Dwy fodfedd oedd tryfesur y gwydr. Ond ei werthu wnaed, a phrynu tremiadur tair modfedd o waith Broadhurst Clarkson. Offeryn ardderchog eto, ond bydd genyf hiraeth am y Burnerd bach dwy fodfedd weithiau. Mae genyf adgofion mor gu am dano. Mae y tremiadur tair modfedd gennyf hyd yn hyn, a bydd gennyf byth am wn i.

Ond erbyn hyn, trwy lafur caled a diwydrwydd ac hefyd gryn gynildeb, yr wyf wedi llwyddo i gael offeryn fydd yn foddion i wneud gwaith safonol, 'rwyf yn disgwyl, os caf oed ac iechyd i'w ddefnyddio. Reflector ydyw hwn deuddeng modfedd a hanner o dryfesur, a'r gwydrau yn ddi-guro wedi eu profi a'u cael yn berffaith gan y Parch. W. F. A. Ellison.

Wel, fel y dywedais, breuddwydion sydd gennyf hyd yn hwn. Astudiaf y Lleuad yn fanwl gyda'r tremiadur mawr bob nos y caf gyfle. Nid wyf wedi cyhoeddi fawr iawn o werth eto. Ond gallaf ddweyd fod fy nghydymdeimlad i gyda Mr. Nasmyth parthed bodolaeth y craterlets bach sydd ar lawr y mynydd Plato. Gwn fod seryddwyr profiadol yn gwadu eu bodolaeth, gan haeru fod Nasmyth yn methu. Ond yr wyf yn dweyd yn ddibetrus eu bod yno. Gwelaf hwy yn hawdd.



Llun 115.     Mr. J. Alun Lloyd - Iou [Sadwrn - camgymeriad argraffu] o'i waith ei hun.

Gyda goleg ar Schroeter's Valley, fy marn onest i ydyw, nad yw y dyffryn yn torri i mewn i'r mynydd Herodotus. Yn hyn o beth yr wyf yn gwahaniaethu oddiwrth Nasmyth.

Talf hefyd sylw i'r planedau mor bell ag y mae yn bosibl, yn enwedig Iou a Sadwrn. Ni chefias fawr hwyl ar Mawrth eto. Gobiethiaf y caf well hwyl yn 1924, pan fydd Mawrth yn uwch i fyny nag ydoedd yn 1922.

Defnyddiaf y tremiadur tair modfedd i wylio y brechau ar yr Haul bob tro y caf gyfle. Gwelwch un o fy mras-luniau yn yr English Mechanic am Awst 25, 1922. Bu darlun o fy nhremiadur mawr a'i dŷ yno hefyd dro yn ol.

J. Alun Lloyd."

Dyna i chwi, fechgyn Cymru, esiampl deilwng o efelychiad. Gobeithio y bydd yn symbyliad i chwi un ac oll i ymegnio i gyrhaedd gwybodaeth a gorchfygu pob rhwystrau.

Mae llawer ereill yn ddiameu ar hyd a lled Cymru, pe gallesid dod o hyd iddynt, a haeddent gael lle amlwg yn y llyr hwn. Dylid crybwyll, beth bynag, am a rhai canlynol:- Y Parch. John Griffith, Ficer Llangwm, Abergavenny, a aned yn 1860 yn Brynchwith, Ponterwyd, ger Aberystwyth, a'r hwn sydd wedi treulio blynyddoedd i chwilio i fewn i'r egwyddorion ar ba rai yr adeiladwyd yr hen Gromlechau ar gynlluniau seryddol, o dan gyfarwyddyd y diweddar Syr Norman Lockyer, ac a olygodd Ddarlith y seryddwr hyglod hwnnw ar `Henafiaeth yr Orsedd.' Dyma eto ddau a fawr hoffant y Wyddoniaeth, sef y Canghellor G. C. Joyce, D.D., cyn-Brifathro Coleg Dewi Sant [Dr. Gilbert Joyce, yr hwyrach Esgob Mynwy a Is-Canhellor Prifysgol Cymru, 1934-1941], a Canon M. Jones Powell, D.D., Ficer Caerdydd. Dylid hefyd grybwyll am yr Athro G. H. Bryan, F.R.S., D.SC., Athro Mesuroniaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor: cyd-awdur y llyfr seryddol rhagorol `Barlow and Bryan's Astronomy'; dyn dysgedig iawn - a fine man, yn ol y disgrifiad a gefais o hono. Sicr yw hefyd y gellir cymhwyso yr un geiriau at yr Athro Gwilym Owen, M.A., B.SC., Athro Anianyddiaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, gwyddonydd a Chymro o'r iawn ryw, ac awdur y llyfr rhagorol hwnnw `Cwrr y Llen.'


This computer readable version was prepared by Bryn Jones,
May 2000.


If you use any of this information, please acknowledge the source.


   
This page was created and is maintained by Bryn Jones.   E-mail: bryn.jones.email@gmail.com .
WWW home page: http://www.jonesbryn.plus.com/ .
This page was first created in January 2000   (at a different address).
It was last modified on 23rd July, 2011.
URL of this page: http://www.jonesbryn.plus.com/wastronhist/sas/ss24f.html .
This page replaced in August 2008 the old page http://brynjones.members.beeb.net/wastronhist/ss24f.html .   An archived copy of the old page is available here.